Mae'n bleser gennym rannu bod Coastal wedi'i achredu am ei ymdrechion presennol i ddiogelu'r amgylchedd ond mae llawer mwy o newidiadau cadarnhaol i ddod.

Muriau gwyrddion yn 85 Ffordd y brenin

Yn ddiweddar dyfarnwyd achrediad Arian SHIFT i Coastal yn dilyn archwiliad annibynnol o'n busnes yn erbyn targedau amgylcheddol.

SHIFT yw’r safon cynaliadwyedd ar gyfer y sector tai ac mae’n cynnal archwiliadau ar draws y DU. Perfformiodd Coastal yn well na 24 o’r 40 sefydliad diwethaf a archwiliwyd gan SHIFT, gan ennill canmoliaeth arbennig am effeithlonrwydd ynni ein cartrefi newydd a’n cartrefi presennol, yn ogystal â’n gwaith i atal tlodi tanwydd. Yn ddiweddar rydym wedi adeiladu eco-gartrefi newydd ym Mhenrhyn Gŵyr a Llandarsi ac wedi gosod y waliau gwyrdd cyntaf yng nghanol dinas Abertawe fel rhan o uwchraddio 85 Ffordd y Brenin.

“Hwn oedd ein harchwiliad amgylcheddol cyntaf gyda SHIFT”, meddai Prif Weithredwr Coastal, Debbie Green, “felly roedd yn ymwneud mewn gwirionedd â sefydlu llinell sylfaen y gallwn ei defnyddio i fesur ein gwelliannau arfaethedig yn y dyfodol.

“Mae cynaliadwyedd wastad wedi bod yn ystyriaeth allweddol i ni yn Coastal ac rydym yn cymryd cyfrifoldeb unigol a chyfunol am gyfyngu ar ein heffaith amgylcheddol lle bynnag y bo modd, felly mae’n braf gweld hynny’n cael ei gydnabod.”

Mae'r Wefan hon yn Defnyddio Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau ar ein gwefan. Fe'u defnyddir i ddadansoddi traffig ar y we, yn ogystal ag i ddiffinio'ch arferion pori i wella'ch profiad llywio. Gall trydydd partïon fel Google hefyd ddefnyddio cwcis i addasu hysbysebu digidol yn dibynnu ar chwaeth ar ein gwefan yn ogystal ag ar wefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw (ail-dargedu).

Mae'r offeryn hwn yn caniatáu ichi reoli cwcis o wefan Coastal a thrydydd partïon.

Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd a chwci yma gyda gwybodaeth ychwanegol ar sut i analluogi cwcis ar y porwr.

Gallwch chi ddiweddaru'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy glicio ar yr eicon ar waelod y dudalen hon.