Gall y Tîm Rheoli Rhent gymryd taliadau, sefydlu debydau uniongyrchol ac ateb cwestiynau cyffredinol am eich cyfrif rhent. Gellir cysylltu â nhw drwy ffonio 01792 479200 a thrwy bwyso opsiwn 1 ar gyfer y Tîm Rheoli Rhenti. Mae'r tîm ar gael rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener.

Os ydych chi'n cael trafferth talu'ch rhent, gallwch chi ddarganfod mwy o wybodaeth yma ar ffyrdd y gallwn eich cynorthwyo. Eich swyddog tai fydd eich cyswllt cyntaf o hyd os ydych yn cael trafferth talu eich rhent.


Sut alla i wneud taliad

Talu trwy Debyd Uniongyrchol

Y ffordd hawsaf i dalu yw trwy sefydlu debyd uniongyrchol. Rhowch alwad i ni ar 01792 479200 a gwasgwch opsiwn 1 ar gyfer y Tîm Rheoli Rhenti.

Maent ar gael o 9am – 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 9am – 4.30pm ar ddydd Gwener.

 

Talu dros y ffôn

Gallwch wneud taliadau gan ddefnyddio ein llinell dalu awtomataidd drwy ffonio 0330 041 6497. Bydd angen i chi gael eich cyfeirnod Allpay a cherdyn debyd/credyd wrth law. Os nad oes gennych eich rhif cyfeirnod Allpay, cysylltwch â ni ar 01792 479200 a gwasgwch opsiwn 1.

Talu ar-lein gan ddefnyddio Allpay

Os oes gennych chi gerdyn Allpay neu gyfeirnod Allpay gallwch chi talu ar-lein yma, ar unrhyw Lleoliad Paypoint neu Swyddfa Bost.

Os hoffech archebu cerdyn Allpay, cysylltwch â ni ar 01792 479200 a gwasgwch opsiwn 1.

Derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol?

Os ydych chi'n derbyn Budd-dal Tai gallwch chi dalu hwn yn uniongyrchol i ni.

Telir Credyd Cynhwysol yn uniongyrchol i chi, felly os ydych yn derbyn hwn, eich cyfrifoldeb chi yw talu eich rhent. Os ydych yn cael trafferth gwneud taliadau cysylltwch â ni.

Yn bersonol

Os hoffech wneud apwyntiad i alw i'n swyddfa, gellir gwneud hyn drwy ein Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01792 479200.

Sut alla i wirio fy mantolen yn amlach?

Gall y Tîm Rheoli Rhent gymryd taliadau, sefydlu debydau uniongyrchol ac ateb cwestiynau cyffredinol am eich cyfrif rhent. Gellir cysylltu â nhw drwy ffonio 01792 479200 a thrwy bwyso opsiwn 1 ar gyfer y Tîm Rheoli Rhenti. Maent ar gael o 9am – 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 9am – 4.30pm ar ddydd Gwener.

Mae'r Wefan hon yn Defnyddio Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau ar ein gwefan. Fe'u defnyddir i ddadansoddi traffig ar y we, yn ogystal ag i ddiffinio'ch arferion pori i wella'ch profiad llywio. Gall trydydd partïon fel Google hefyd ddefnyddio cwcis i addasu hysbysebu digidol yn dibynnu ar chwaeth ar ein gwefan yn ogystal ag ar wefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw (ail-dargedu).

Mae'r offeryn hwn yn caniatáu ichi reoli cwcis o wefan Coastal a thrydydd partïon.

Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd a chwci yma gyda gwybodaeth ychwanegol ar sut i analluogi cwcis ar y porwr.

Gallwch chi ddiweddaru'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy glicio ar yr eicon ar waelod y dudalen hon.