“Bydd yn dwyn ynghyd ystod o wasanaethau iechyd a lles o dan yr un to, gan ei gwneud yn haws i bobl gael gafael ar y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt mewn ffordd gydgysylltiedig.

“Bydd y ganolfan newydd yn disodli’r clinig canolog presennol ar Orchard Street ac yn gartref i ddwy gangen practis meddyg teulu yng nghanol y ddinas, gan gynnig cyfleusterau modern sydd wedi’u cynllunio’n dda i bobl eu mwynhau.

“Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Coastal Housing i gynnig y datblygiad cyffrous hwn i’n cymuned.”