Simon Jones

Cyfarwyddwr Cyllid Gweithredol

Cyfarwyddwr Cyllid Gweithredol

Cymhwysodd Simon fel cyfrifydd ym 1992 ac ym 1996 ymunodd â Chymdeithas Tai Merthyr Tudful fel Cyfarwyddwr Cyllid. Yn 2002 ymunodd â'r Grŵp Tai Siarter ar y pryd, a ddaeth yn Seren Group (Pobl Group erbyn hyn), lle'r oedd yn Gyfarwyddwr Adnoddau Grŵp. Bu ganddo ran fawr yn y broses o ffurfio Seren Group ac yn nhwf y Grŵp yn ystod y 13 blynedd y bu'n gweithio yno. Gweithiodd Simon yn fyr ym maes adeiladu'r sector preifat cyn ymuno ag Coastal ym mis Medi 2016.

Roedd cyfrifoldebau Simon yn cynnwys dod ag Aelodau Grŵp newydd i drefniadau ariannol a llywodraethu’r Grŵp, trefnu benthyciadau’r Grŵp, a sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi cyfalaf yn cael eu hystyried yn llawn. Mae hefyd wedi dal swyddi anweithredol, fel Aelod o Fwrdd Cymdeithas Tai Myrddin, cymdeithas trosglwyddo stoc De Swydd Gaerloyw, ar Fwrdd Llamau, ac ar Gyngor Cenedlaethol Tai Cymunedol Cymru (CHC). Mae'n parhau i gyfrannu ei arbenigedd i CIC fel Cadeirydd ei Grŵp Cyflenwi Strategol Cyllid ac mae hefyd yn Aelod o Bwyllgor Gweithwyr y Cynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol.

01792 479200

simonj@coastalha.co.uk

Pennawd Simon Jones - Cyfarwyddwr Cyllid Gweithredol Coastal

Mae'r Wefan hon yn Defnyddio Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau ar ein gwefan. Fe'u defnyddir i ddadansoddi traffig ar y we, yn ogystal ag i ddiffinio'ch arferion pori i wella'ch profiad llywio. Gall trydydd partïon fel Google hefyd ddefnyddio cwcis i addasu hysbysebu digidol yn dibynnu ar chwaeth ar ein gwefan yn ogystal ag ar wefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw (ail-dargedu).

Mae'r offeryn hwn yn caniatáu ichi reoli cwcis o wefan Coastal a thrydydd partïon.

Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd a chwci yma gyda gwybodaeth ychwanegol ar sut i analluogi cwcis ar y porwr.

Gallwch chi ddiweddaru'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy glicio ar yr eicon ar waelod y dudalen hon.