Mae'r holl synwyryddion mwg mewn cartrefi a ddarperir gan Beacon yn wifrau caled a ni sy'n gyfrifol am eu hatgyweirio neu osod rhai newydd yn eu lle.
Mae ein peirianwyr cymwys a chofrestredig yn gwirio'r holl larymau mwg a charbon monocsid yn eich cartref ynghyd â popty nwy, fodd bynnag, os yw'n ddiffygiol byddem yn datgysylltu'r offer ac yn cynghori nad yw'n ddiogel i'w ddefnyddio. Cyfrifoldeb preswylwyr yw gwasanaethu poptai nwy trwy benodi peiriannydd Gas Safe y gallwch ddod o hyd iddo yma.
Os oes gennych foeler nwy, byddai Beacon wedi gosod larwm carbon monocsid o fewn ardal y boeler, a fyddech cystal â gwirio hyn bob mis wrth ochr eich larwm tân.
Os byddwch yn clywed sŵn blîp o’ch synhwyrydd mwg a/neu garbon monocsid pan nad oes mwg na gwres yn bresennol neu os ydych yn meddwl nad yw’n gweithio, dylech adrodd hyn i Beacon.
Diogelwch Tân
Peth cyngor cyffredinol yw;
Cyngor gan Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
I gael gwybodaeth am ddiogelu eich cartref, gallwch ymweld â'r Gwefan Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Gyda chanran fawr o danau yn cychwyn yn y gegin, cymerwch olwg ar yr awgrymiadau da hyn a ddarparwyd gan Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru er mwyn lleihau eich siawns o dân yn cychwyn yn y gegin.
Oes gennych chi e-sgwter neu e-feic?
Dylai e-sgwteri ac e-feiciau fod yn ddiogel pan gânt eu defnyddio'n gywir, fodd bynnag gall batris lithiwm-ion achosi tanau difrifol, gall hyn fod oherwydd difrod, defnydd amhriodol neu rannau o ansawdd isel.
Mae'n bwysig eich bod yn prynu'r rhain gan werthwyr ag enw da. Gall tanau a gychwynnir gan fatris lithiwm-ion ddechrau heb rybudd a lledaenu'n gyflym. I gael rhagor o gyngor, ewch i wefan y llywodraeth yma. Gallwch hefyd ymweld â gwefan Gwasanaeth Tân CGC yma.
A yw cynnwys eich cartref wedi'i gynnwys?
Os bydd tân yn anffodus, gallech fod mewn perygl o golli eich eiddo gwerthfawr. Os ydych yn rhentu cartref gennym ni, nid yw Beacon yn yswirio cynnwys eich cartref fel rhan o'r cytundeb tenantiaeth neu gontract meddiannaeth. Mae'n syniad da ystyried ar gyfer beth y byddai polisi yswiriant cynnwys cartref yn eich diogelu, er mwyn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus a oes angen un arnoch.
Gallwch ddarganfod mwy am yswiriant cynnwys yma.
Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau ar ein gwefan. Fe'u defnyddir i ddadansoddi traffig ar y we, yn ogystal ag i ddiffinio'ch arferion pori i wella'ch profiad llywio. Gall trydydd partïon fel Google hefyd ddefnyddio cwcis i addasu hysbysebu digidol yn dibynnu ar chwaeth ar ein gwefan yn ogystal ag ar wefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw (ail-dargedu).
Mae'r offeryn hwn yn eich galluogi i reoli cwcis o wefan Beacon a thrydydd partïon.
Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd a chwci yma gyda gwybodaeth ychwanegol ar sut i analluogi cwcis ar y porwr.
Gallwch chi ddiweddaru'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy glicio ar yr eicon ar waelod y dudalen hon.
Angenrheidiol - ni ellir eu dad-ddethol. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud gwefan yn ddefnyddiadwy trwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalennau a mynediad i rannau diogel o'r wefan. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.