Patrick Hoare

Cadeirydd

Wedi ymddeol yn ddiweddar o Gymdeithas Adeiladu’r Principality, mae gan Patrick hanes profedig o ddefnyddio methodoleg meddwl trwy systemau sy’n dangos gwelliant mewn gwasanaeth, effeithlonrwydd, costau a morâl ar draws ystod o ddiwydiannau gwasanaeth. Mae ganddo brofiad o weithio gyda brandiau blaenllaw mewn diwydiannau cystadleuol gyda'r prif ffocws ar ragori ar ddisgwyliadau ar gyfer darparu gwasanaeth cwsmeriaid trwy reoli ansawdd craidd.

O 2009-2017, roedd Patrick yn ymgynghorydd ar ei liwt ei hun gyda Vanguard Consulting Limited a oedd yn cynnwys ail-ddylunio gwaith ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r sector preifat. Yn ystod yr amser hwn bu’n gweithio gyda saith Cymdeithas Tai wahanol yn y DU ac Iwerddon gan ganolbwyntio ar wella gwasanaethau i breswylwyr. Cyn hyn, treuliodd Patrick 17 mlynedd gyda 'The Halifax' a oedd yn cynnwys cyfnodau fel Rheolwr Canolfan Alwadau a Chyfarwyddwr Gweithrediadau.

Yn un o ddim ond 45 o bobl ledled y byd i gael ei achredu i ddefnyddio methodoleg Vanguard Consulting Ltd, mae ganddo radd mewn Gwyddor Chwaraeon o Brifysgol Loughborough, mae’n Gadeirydd ei Oergell Gymunedol leol ac yn hyfforddi athletwyr ifanc mewn clwb rhedeg yng Nghasnewydd.

Patrick Hoare, Is-Gadeirydd

Mae'r Wefan hon yn Defnyddio Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau ar ein gwefan. Fe'u defnyddir i ddadansoddi traffig ar y we, yn ogystal ag i ddiffinio'ch arferion pori i wella'ch profiad llywio. Gall trydydd partïon fel Google hefyd ddefnyddio cwcis i addasu hysbysebu digidol yn dibynnu ar chwaeth ar ein gwefan yn ogystal ag ar wefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw (ail-dargedu).

Mae'r offeryn hwn yn caniatáu ichi reoli cwcis o wefan Coastal a thrydydd partïon.

Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd a chwci yma gyda gwybodaeth ychwanegol ar sut i analluogi cwcis ar y porwr.

Gallwch chi ddiweddaru'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy glicio ar yr eicon ar waelod y dudalen hon.