Mae Tai Coastal wedi caffael hen dafarn y Kings Arms ar Stryd Fawr Abertawe fel rhan o'u hadfywiad parhaus o'r ardal.

Mae'r dafarn wedi bod ar gau yn barhaol am y flwyddyn ddiwethaf ac mae angen gwaith uwchraddio ar yr adeilad rhestredig. Mae gan Coastal ymrwymiad hirsefydlog i adfywio’r Stryd Fawr, ar ôl buddsoddi bron i £30 miliwn yn yr ardal dros y ddegawd ddiwethaf, drwy gaffaeliadau strategol ac ailddatblygu.

Gweithredodd yr ymgynghorwyr eiddo masnachol BP2 ar ran Coastal wrth brynu'r adeilad, a fydd nawr yn cael ei uwchraddio cyn cael ei ddefnyddio eto at ddibenion masnachol.

“Rydym wrth ein bodd gyda'r caffaeliad hwn,” meddai Kelly Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ac Adfywio Coastal. “Mae’n adeilad pwysig, yn hanesyddol i Abertawe ac o ran opsiynau Coastal ar gyfer datblygiad pellach yn y Stryd Fawr.”

“Ein ffocws ar hyn o bryd yw gwaith uwchraddio i adfer yr adeilad rhestredig i'w hen ogoniant. Nid ydym wedi gwneud penderfyniadau cadarn ar ei ddyfodol ond byddem yn arbennig o awyddus i annog ceisiadau ar gyfer busnesau sy’n gwasanaethu’r gymuned LGBTQ+ leol, o ystyried bod y Kings Arms Tavern yn lleoliad pwysig yn hyn o beth yn hanesyddol.”

Mae'r Wefan hon yn Defnyddio Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau ar ein gwefan. Fe'u defnyddir i ddadansoddi traffig ar y we, yn ogystal ag i ddiffinio'ch arferion pori i wella'ch profiad llywio. Gall trydydd partïon fel Google hefyd ddefnyddio cwcis i addasu hysbysebu digidol yn dibynnu ar chwaeth ar ein gwefan yn ogystal ag ar wefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw (ail-dargedu).

Mae'r offeryn hwn yn caniatáu ichi reoli cwcis o wefan Coastal a thrydydd partïon.

Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd a chwci yma gyda gwybodaeth ychwanegol ar sut i analluogi cwcis ar y porwr.

Gallwch chi ddiweddaru'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy glicio ar yr eicon ar waelod y dudalen hon.