Amy Barrett

Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cartrefi, Buddsoddi a Chynaliadwyedd

Mae Amy yn Gymrawd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr, gan gymhwyso gyda chwmni o Gyfrifwyr Siartredig practis cyhoeddus. Ar ôl treulio 13 mlynedd yn gweithio gydag ystod amrywiol o fusnesau masnachol preifat yn ogystal ag elusennau, symudodd Amy i'r sector tai ac ymuno â United Welsh.

Ar ôl 19 mlynedd yn United Welsh, ymddeolodd Amy o'i rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid. Yn ystod y cyfnod hwn dyblodd y gymdeithas o ran maint a chafodd Amy brofiad helaeth mewn datblygu a chyllid trysorlys cysylltiedig. Bu'n ymwneud yn helaeth â sefydlu dau is-gwmni ac yn nhwf cyffredinol gweithgareddau'r grŵp gan gynnwys sefydlu ffatri yn gwneud strwythurau ffrâm bren cynaliadwy o ansawdd uchel o dan Ddulliau Adeiladu Modern (MMC). O’r 19 mlynedd – treuliwyd dau ar secondiad fel Dadansoddwr Ariannol yn gweithio gyda thîm Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru, rôl a alluogodd Amy i ymgyfarwyddo â’r sector ledled Cymru.

Gan ei bod yn angerddol am y sector tai ac eisiau defnyddio'r sgiliau a'r profiad helaeth a enillwyd wrth weithio ym maes tai, mae Amy yn hynod gyffrous i ymuno â bwrdd Coastal.

Mae aelodaeth flaenorol y bwrdd wedi cynnwys Gofal a Thrwsio Caerffili a Smart Money Cymru.

Mae Amy yn byw yng Nghaerdydd ac yn gerddwraig egnïol ac yn frwd dros yoga ac mae wedi dechrau Tai Chi yn ddiweddar.

Amy Barrat

Mae'r Wefan hon yn Defnyddio Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau ar ein gwefan. Fe'u defnyddir i ddadansoddi traffig ar y we, yn ogystal ag i ddiffinio'ch arferion pori i wella'ch profiad llywio. Gall trydydd partïon fel Google hefyd ddefnyddio cwcis i addasu hysbysebu digidol yn dibynnu ar chwaeth ar ein gwefan yn ogystal ag ar wefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw (ail-dargedu).

Mae'r offeryn hwn yn caniatáu ichi reoli cwcis o wefan Coastal a thrydydd partïon.

Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd a chwci yma gyda gwybodaeth ychwanegol ar sut i analluogi cwcis ar y porwr.

Gallwch chi ddiweddaru'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy glicio ar yr eicon ar waelod y dudalen hon.