Siaradwch â ni os gwelwch yn dda

Mae llawer o bobl yn wynebu dewisiadau anodd oherwydd newidiadau sy'n effeithio ar eu harian.

Rydyn ni'n gwybod bod gwneud y cam cyntaf i ofyn am help yn gallu bod yn frawychus weithiau ond siaradwch â ni cyn gynted ag y byddwch chi'n dod yn bryderus ynghylch gallu talu'ch rhent. Po gynharaf y byddwch yn siarad â ni, y cyflymaf y gallwn helpu.

Cysylltwch â'ch Swyddog Tai Cymunedol neu ffoniwch ni ar 01792 479200 a phwyswch opsiwn un.

Sut gallwn ni helpu? 

Y peth cyntaf y byddwn yn ei wneud yw gwrando. Mae amgylchiadau pawb yn wahanol a byddwn yn gwrando arnoch chi i'n helpu ni i ddeall eich sefyllfa bersonol. Ein nod yw gweithio gyda chi i'ch helpu i gyllidebu a lleihau unrhyw ôl-ddyledion mewn ffordd sy'n fforddiadwy i chi.

  • Gallwn eich helpu i wirio a ydych yn derbyn yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt – gallwch hefyd wneud hyn eich hun yma 
  • Sefydlu debyd uniongyrchol yw’r ffordd hawsaf o dalu eich rhent eich hun – gallwn eich helpu i wneud hyn os yw hyn yn iawn i chi
  • Gallwn eich helpu i ddatblygu cynllun ad-dalu sy'n iawn i chi
  • Gallwn eich helpu i gael mynediad at amrywiol gronfeydd caledi neu grantiau i'ch cynorthwyo trwy'r amser anodd hwn
  • Gallwn eich helpu i ddod o hyd i wasanaethau eraill a allai fod o gymorth i chi megis banciau bwyd – mae rhai manylion am y rhain a chyngor arall ar les ariannol yma 

Stori John:

Symudodd John i'w gartref gyda Coastal yn 2011, fflat 2 ystafell wely newydd. Roedd yn gweithio'n llawn amser fel gyrrwr tacsi tan y pandemig, a gostyngodd ei enillion yn sylweddol o ganlyniad.

Gan ei fod yn cael trafferth dod o hyd i ddigon ar gyfer ei filiau blaenoriaeth fel rhent, nwy a thrydan, galwodd John ei Swyddog Tai Cymunedol, Sarah, am help. Cafodd gymorth yn gyflym i hawlio Credyd Cynhwysol, a oedd yn ychwanegu at ei incwm gweithio isel, ac yn golygu y gallai fforddio talu ei filiau. Yn anffodus, flwyddyn yn ddiweddarach gostyngodd Llywodraeth y DU Gredyd Cynhwysol £20 yr wythnos ac roedd John yn cael trafferth talu’r rhent. Effeithiwyd arno gan y dreth ystafell wely.

Unwaith eto, siaradodd â Sarah a gyfarfu â John a chwblhau ffurflen Taliad Tai Dewisol. Arweiniodd hyn at daliad o £1000 i John ei ddefnyddio tuag at ei rent.

Os ydych yn cael trafferthion ariannol, gall hyn hefyd effeithio ar eich iechyd a’ch lles – mae llawer o gymorth ar gael os oes ei angen arnoch. Darganfyddwch fwy yma

Gallwch ddarganfod mwy am sut rydym yn gosod eich rhent a thaliadau gwasanaeth yma.

Mae'r Wefan hon yn Defnyddio Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau ar ein gwefan. Fe'u defnyddir i ddadansoddi traffig ar y we, yn ogystal ag i ddiffinio'ch arferion pori i wella'ch profiad llywio. Gall trydydd partïon fel Google hefyd ddefnyddio cwcis i addasu hysbysebu digidol yn dibynnu ar chwaeth ar ein gwefan yn ogystal ag ar wefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw (ail-dargedu).

Mae'r offeryn hwn yn caniatáu ichi reoli cwcis o wefan Coastal a thrydydd partïon.

Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd a chwci yma gyda gwybodaeth ychwanegol ar sut i analluogi cwcis ar y porwr.

Gallwch chi ddiweddaru'ch dewisiadau ar unrhyw adeg trwy glicio ar yr eicon ar waelod y dudalen hon.